Croeso i’r Chweched Gyngres Archeolegol!

Mae’r pwyllgor trefnu yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Iwerddon ar gyfer WAC-6 rhwng 29ain Mehefin a 4ydd Gorffennaf 2008. Coleg Prifysgol Dulyn fydd prif leoliad y rhaglen academaidd, ac mae hyn ychydig i’r De o ganol ddinas Dulyn. Fel y gwelwch o’n gwefan (<http://www.ucd.ie/wac-6>) gallwch gyfrannu tuag at ystod eang a chyffrous o themâu a sesiynau. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau a phosteri yw 22ain Chwefror 2008. Defnyddiwch y daflen electronig sydd ar ein gwefan ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer papurau a phosteri os gwelwch yn dda. Rydym yn awyddus iawn i chi cyflwyno eich cais mor fuan â phosib.

Mae’r costau cofrestru ar gyfer y Gyngres yn cael eu rhestru ar ein gwefan. Rydym yn awyddus iawn i gyfranogwyr nad ydynt yn aelodau o’r ‘World Archaeological Congress (WAC)’  i ystyried ymuno gan fod y costau cofrestru ar gyfer WAC-6 yn llawer is ar gyfer aelodau WAC. Gallwch ymaelodi gyda WAC ar- lein: http://worldarchaeologicalcongress.org/site/join.php. Yn dilyn nod WAC o gael cynrychiolwyr byd eang, rydym yn falch o gynnig cefnogaeth drwy gynnig dileu'r costau cofrestru a llety, a chyfrannu at gostau teithio aelodau WAC o wledydd dan anfantais economaidd neu o gymdeithasau brodorol. Gwelwch y ffurflen gais am gymorth costau teithio ar dudalen grantiau gwefan WAC-6.

Bydd nifer o arddangosfeydd yn ystod y gyngres, yn cynnwys Abhar agus Meon, ‘Materials and Mentalities’, arddangosfa fawr sydd yn ymchwilio ac yn dathlu'r berthynas rhwng celf ac archeoleg. Dydd Mercher 2ail Gorffennaf bydd amrywiaeth o deithiau canol-Cyngres, yn cynnig siawns i gyfranogwyr fwynhau’r cyfle i weld treftadaeth archeolegol Iwerddon. Bydd hefyd tair taith archeolegol ar ddiwedd y Gyngres ar gyfer y rhai sydd â diddordeb. Yn ychwanegol, bydd y Gyngres yn cynnig rhaglen gymdeithasol lawn ar gyfer mwynhad pawb. 

Os ydych am ymholi am y rhaglen academaidd, e-bostiwch wac6programme@ucd.ie os gwelwch yn dda. Ar gyfer ymholiadau cofrestru, llety neu ofynion visa Gwyddelig cysylltwch â wac6@ucd.ie.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Nulyn!
Gabriel Cooney, Ysgrifennydd Academaidd, ar ran tîm trefnu WAC-6.

DYDDIADAU PWYSIG
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau / posteri: 22 Chwefror 2008
Dyddiad olaf cadarnhau papurau / posteri: 14 Mawrth 2008
(Os ydych angen cadarnhad cynnar o dderbyniad eich cais ar gyfer pwrpas cyllido, cysylltwch â wac6programme@ucd.ie)
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru cynnar: cyn 26 Mawrth 2008
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru’n hwyr: ar ôl 26 Mawrth 2008
Dyddiad cau terfynol ar gyfer trefnwyr a chyflwynwyr: 1af Mai 2008